Skip to main content

Paul Davies MS/AS

Preseli Pembrokeshire

Main navigation

  • Home
  • News
  • About Paul Davies
  • Campaigns
  • Welsh Parliament
  • Surgeries
  • My Staff Team
  • Contact
  • CYMRAEG
  • Coronavirus (COVID-19)
  • Covid-19 Survey

Mwy O Gymraeg I'r Ceidwadwyr Cymreig

  • Tweet
Tuesday, 26 February, 2008
BYDD y Ceidwadwyr Cymreig yn torri tir newydd yr wythnos hon, gan ddangos eu hymrwymiad i gynyddu'r defnydd o'r iaith Gymraeg.  Heddiw, bydd grŵp Cynulliad y blaid yn briffio'r cyfryngau yn y Gymraeg am y tro cyntaf erioed, a'r penwythnos hwn darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd Cymraeg am y tro cyntaf yng nghynhadledd y blaid.  Dywedodd Paul Davies, Gweinidog Treftadaeth yr Wrthblaid ac AC Preseli Sir Benfro fod y ddau ddatblygiad hwn yn bwysig iawn i'r blaid.  Cynhelir cynhadledd y blaid y penwythnos h

BYDD y Ceidwadwyr Cymreig yn torri tir newydd yr wythnos hon, gan ddangos eu hymrwymiad i gynyddu'r defnydd o'r iaith Gymraeg.

Heddiw, bydd grŵp Cynulliad y blaid yn briffio'r cyfryngau yn y Gymraeg am y tro cyntaf erioed, a'r penwythnos hwn darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd Cymraeg am y tro cyntaf yng nghynhadledd y blaid.

Dywedodd Paul Davies, Gweinidog Treftadaeth yr Wrthblaid ac AC Preseli Sir Benfro fod y ddau ddatblygiad hwn yn bwysig iawn i'r blaid.

Cynhelir cynhadledd y blaid y penwythnos hwn yn Venue Cymru, Llandudno, a bydd gwasanaeth cyfieithu ar y pryd i'r Saesneg ar gael i alluogi siaradwyr i ddefnyddio'r Gymraeg.

Mae disgwyl i nifer o siaradwyr Cymraeg annerch y gynhadledd. Mae dysgwyr Cymraeg, gan gynnwys Aelodau'r Cynulliad, hefyd yn cael eu hannog i ddefnyddio rhywfaint o Gymraeg yn eu hareithiau i'r gynhadledd.

Bydd y gynhadledd hefyd yn talu teyrnged arbennig i'r Arglwydd Roberts o Gonwy a fu'n flaenllaw yn y gwaith o sefydlu S4C, cyflwyno Deddf yr Iaith Gymraeg a chreu Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn rhinwedd ei swydd fel gweinidog y Llywodraeth.

Ymddeolodd yr Arglwydd Roberts o'r meinciau blaen y llynedd ar ôl 37 mlynedd ar frig y byd gwleidyddol.

Meddai Paul Davies, Gweinidog Treftadaeth yr Wrthblaid ac AC Preseli Sir Benfro:

"Mae'r datblygiadau hyn yn bwysig iawn i'r Ceidwadwyr Cymreig ac yn pwysleisio ein hymrwymiad i'r iaith Gymraeg.

"Fel plaid rydyn ni'n awyddus i ddefnyddio mwy o'r Gymraeg yn ein holl weithgareddau. Mae darparu gwasanaeth cyfieithu yn ein cynhadledd a'n sesiynau briffio'r cyfryngau yn elfen bwysig o hynny.

  • Local News

You may also be interested in

Concerns Over Prolonged Closure of Non-essential Businesses Raised by Local MS

Wednesday, 17 March, 2021

Preseli Pembrokeshire’s Senedd Member Paul Davies has challenged the First Minister to confirm what scientific evidence has been used by the Welsh Government to prohibit non-essential businesses from reopening.

Show only

  • Assembly News
  • Local News
  • Opinions
  • Senedd News
  • Westminster News

Paul Davies for Preseli Pembrokeshire

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About Paul Davies
  • Welsh Parliament
The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds. Promoted by Georgina Bryan on behalf of Paul Davies, both of 20 Upper Market Street, Haverfordwest, Pembrokeshire SA61 1QA. Neither the Welsh Parliament, nor Paul Davies are responsible for the content of external links or websites.
Copyright 2021 Paul Davies for Preseli Pembrokeshire. All rights reserved.
Powered by Bluetree